Gall llygod a llygod mawr fod yn niwsans mewn UNRHYW dŷ, ond maent yn llawer mwy tebygol mewn ardaloedd trefol.
Mae'n dibynnu'n bennaf ar sut rydych yn gofalu am eich tŷ.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn yr awgrymiadau hyn i atal y gwesteion bach rhag symud i mewn:
- Peidiwch â gadael bwyd neu becynnau bwyd o gwmpas y lle
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw gwastraff ac ailgylchu'n daclus, ac yn eu rhoi yn y biniau plastig a ddarperir lle bo'n bosib
- Cadwch eich gerddi mor daclus â phosib a gwaredwch unrhyw falurion a llanast
Os ydych yn byw mewn eiddo SAS ac yn sylwi ar:
- Tyllau mawr lle gallai llygoden neu lygoden fawr ddod i mewn
- Tail
Ffoniwch SAS ar 01792 605462 cyn gynted â phosib, a chymerwch luniau os gallwch.